CymraegSkillsmart Retail yw Cyngor Sgiliau’r Sector manwerthu ac mae’n gweithio gyda manwerthwyr o bob maint ym Mhrydain i ddeall y problemau a gânt o ran sgiliau ac i ddatblygu atebion i ddiwallu eu hanghenion.

Cawsom ein sefydlu a’n ariannu’n rhannol gan y Llywodraeth i fod yn sefydliad dielw sy’n canfod ac yn rhoi sylw i’r anghenion o ran sgiliau, i godi proffil manwerthu ym Mhrydain gan sicrhau dylanwad a chyllid, ac i ymwneud â manwerthwyr i ddenu pobl i ddilyn gyrfa yn y sector hwn. Mae Skillsmart Retail yn gweithredu dan drwydded i’r Adran Addysg a Sgiliau ac mae’n rhan o’r Rhwydwaith Sgiliau Busnes.

Busnes sy’n ymwneud â phobl yw manwerthu. Gall yr amrywiaeth o sgiliau hanfodol gynnwys gwasanaethu cwsmeriaid, gwybod am gynhyrchion, creu arddangosiadau, rheoli stoc, marchnata, prynu, cyllid, adnoddau dynol, a rheoli ac arwain.

Er hynny, nid oes gan 1 o bob rhyw 3 gweithiwr yn y maes ond cymhwyster sylfaenol, neu ddim cymhwyster o gwbl. Yn yr un modd, 20% yn unig o’r rheolwyr sydd â gradd neu gymhwyster ôl-raddedig o’i gymharu â 39% o’r rheolwyr mewn diwydiannau eraill, ac mae nifer fawr o’r gweithwyr yn brin o sgiliau sylfaenol darllen ac ysgrifennu.

At hynny, ac er bod manwerthu’n cynnig cyfleoedd gwych i ddilyn gyrfa, barn llawer o bobl o hyd yw nad yw’r sector yn un deniadol. Mae llawer o waith i’w wneud i newid barn pobl ifanc, eu rhieni a’u hymgynghorwyr gyrfaoedd, a’r her yw i Skillsmart Retail a’r diwydiant weithio gyda’i gilydd i godi lefelau sgiliau a newid canfyddiadau.

Gweledigaeth Skillsmart Retail yw y bydd cyflogwyr manwerthu o bob maint ledled Prydain yn gweithredu yn unol ag agenda gytûn ar sgiliau a chymwysterau erbyn 2009, ac y bydd hynny’n cyfrannu’n uniongyrchol at gynyddu’r twf mewn cynhyrchedd. Yn ogystal, bydd y rhai sydd ac a fydd yn gweithio ym maes manwerthu, a’r rhai sy’n dylanwadu arnynt, yn gweld manwerthu yn faes lle gallant ddysgu, datblygu a dysgu sgiliau ac, os yw’n briodol, ennill cymwysterau a dilyn llwybrau gyrfa pendant.

Mae’r noddwyr mewn cwmnïau yn cynnwys: Syr Terry Leahy, Prif Weithredwr Tesco; Syr Stuart Hampson, Cadeirydd Partneriaeth John Lewis; Charles Dunstone, Prif Weithredwr Gr_p y Carphone Warehouse; Belinda Earl, Prif Weithredwraig Jaeger; Stuart Rose, Prif Weithredwr Marks & Spencer; John Clare, Prif Weithredwr DSG international ccc; a Martin Beaumont, Prif Weithredwr y Gr_p Cydweithredol.

Mae’r sector manwerthu’n chwarae rhan hollbwysig wrth gefnogi economi Cymru. Bellach, bydd dinas Caerdydd yn denu rhyw 650,000 o siopwyr y flwyddyn a hi, yn ôl Dadansoddiad Experian o Fanwerthu yn 2004, yw’r 8fed gyrchfan siopa orau ym Mhrydain. Mae canolfannau trefi llai megis y Bont-faen ac ardal y Mwmbwls ger Abertawe hefyd yn tyfu o ran eu statws. Yn yr un modd, gall mannau fel Pwllheli ac Aber-soch yn y gogledd-orllewin ac Arberth yn y de-orllewin gynnig mwy a mwy i’r defnyddiwr. Mae Asesiad Blynyddol 2005-2006 o Ddysgu a Sgiliau yn rhag-weld y bydd nifer y swyddi ym myd dosbarthu (sy’n cynnwys manwerthu) 10,000 yn uwch yng Nghymru erbyn 2012.